
Ymgyrch Symudiad dros Eiliadau
Cydweithrediad rhanbarthol ar gyfer menywod a merched Mae Activate West Wales yn gweithio ochr yn ochr â chymunedau a phartneriaid ledled rhanbarth Gorllewin Cymru i arwain, cydweithio a chymryd camau gweithredu i greu cyfleoedd i fenywod a merched fod yn fwy egnïol ac ymwneud â gweithgarwch corfforol. Enghraifft gref o'r dull partneriaeth hwn yw'r cydweithrediad rhwng pedwar awdurdod lleol yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Gyda'i gilydd, fe wnaethant nodi her ranbarthol a rennir: diffyg amgylcheddau cyson, sy'n gyfeillgar i fenywod ac sy'n cefnogi menywod a merched i fod yn egnïol. Gan gydnabod na ellid mynd i'r afael â'r mater hwn ar ei ben ei hun, gwnaeth yr awdurdodau lleol gais ar y cyd


