Mae'r sefydliad sy’n gyfrifol am yr adroddiad yn rhybuddio, "oni bai ein bod yn gweithredu'n benderfynol nawr, bydd gormod o bobl yn wynebu dyfodol a gaiff ei lunio gan salwch y gellid ei atal."
Mae un o bob tri phlentyn yng Ngorllewin Cymru rhwng pedair a phum mlwydd oed dros bwysau iach, yn ôl ymchwil gan Activate Gorllewin Cymru.
Canfu'r ymchwil hefyd fod llai nag un o bob pedwar o blant a phobl ifanc yn yr ysgol gynradd ledled y rhanbarth yn cyflawni'r 60 munud o weithgarwch corfforol dyddiol a argymhellir.
Mae'r data'n rhan o adroddiad 'Cyflwr y Rhanbarth' newydd, a gomisiynwyd gan Activate Gorllewin Cymru – sy'n cwmpasu awdurdodau lleol Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro – a gyflwynwyd gan Athrofa Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru (WIPAHS). Gwnaeth ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, byrddau iechyd, cyrff llywodraethu cenedlaethol a sefydliadau cymunedol sydd â diddordeb mewn iechyd, chwaraeon, gweithgarwch corfforol, llesiant a hamdden ledled Gorllewin Cymru gymryd rhan yn yr arolwg.*
Canfu'r adroddiad hefyd fod nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn lleihau'n sylweddol erbyn oedran ysgol uwchradd, gyda dim ond 19% o ddisgyblion ledled Gorllewin Cymru yn cyflawni'r 60 munud o weithgarwch corfforol a argymhellir y dydd. Mae bechgyn yn sylweddol fwy egnïol na merched: mae 22-24% o fechgyn yn bodloni'r canllawiau dyddiol o gymharu â dim ond 13-14% o ferched.
Roedd y data hefyd yn tynnu sylw at lefelau uchel o ymddygiad llonydd, gyda saith neu fwy o oriau â diffyg ymarfer corff yn cael eu hadrodd yn ystod yr wythnos. Roedd hyn yn arbennig o amlwg yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, lle mae lefelau'n uwch na chyfartaledd Cymru, sef 17%; yng Nghastell-nedd Port Talbot, y ffigwr hwnnw oedd 18.4%. Ar draws yr holl awdurdodau lleol, canfuwyd bod mwy o ddiffyg ymarfer corff ymysg merched na bechgyn.
Pwrpas yr adroddiad yw dod â ffynonellau data presennol at ei gilydd, tynnu sylw at batrymau ac anghydraddoldebau allweddol, a nodi cyfleoedd lle gall Activate Gorllewin Cymru gefnogi mwy o effaith sydd wedi'i thargedu.
Roedd yr adolygiad hefyd yn archwilio’r cyfranogiad mewn chwaraeon wedi’u trefnu. Yn galonogol, mae gan Orllewin Cymru ganran uwch o blant a phobl ifanc sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon wedi’u trefnu dair gwaith yr wythnos na chyfartaledd Cymru.
Fodd bynnag, mae cyfranogiad merched yn parhau i fod yn is na chyfranogiad bechgyn, a hynny ym mhob awdurdod lleol. Pan ofynnwyd iddynt am y galw, nododd plant a phobl ifanc ag anableddau fod ganddynt ddiddordeb mewn gweithgareddau fel codi pwysau, tenis a saethyddiaeth, tra bod y rhai heb anableddau yn cyfeirio’n fwyaf cyffredin at nofio, pêl-droed a beicio.
Dywedodd Dr Sue Barnes, Cadeirydd Activate Gorllewin Cymru: "Mae'r adolygiad cyntaf hwn o Gyflwr y Rhanbarth yn rhoi'r darlun mwyaf cynhwysfawr i ni hyd yma o chwaraeon, gweithgarwch corfforol ac iechyd ledled Gorllewin Cymru. Mae'r dystiolaeth yn yr adroddiad yn cyflwyno gwirionedd clir ac anghyfforddus: oni bai ein bod yn gweithredu'n benderfynol nawr, bydd gormod o bobl ar draws ein hôl troed rhanbarthol yn wynebu dyfodol a gaiff ei lunio gan salwch y gellid ei atal, anghydraddoldeb a fydd yn ehangu, a llai o gyfleoedd.
"Heb ymyrraeth, mae plentyn anweithgar heddiw yn debygol iawn o ddod yn oedolyn afiach yfory. Bydd yn ymuno â’r gweithlu yn ddiweddarach, yn ei adael yn gynharach, ac yn treulio mwy o flynyddoedd yn dibynnu ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Ychwanegodd Jamie Rewbridge, Prif Weithredwr Activate Gorllewin Cymru: "Bydd gwrthdroi'r llwybr hwn yn gofyn am weithredu parhaus a chydgysylltiedig ar draws sectorau. Ni all yr un sefydliad unigol gyflawni'r newid sydd ei angen. Mae llwyddo’n dibynnu ar gydweithrediad gan ein llywodraeth, gan raeadru’r holl ffordd i’n hawdurdodau lleol, byrddau iechyd, ysgolion, sefydliadau cymunedol, clybiau, busnesau, a phartneriaid cenedlaethol. Trwy ddefnyddio'r hyn yr ydym wedi'i ddysgu yn yr adroddiad hwn i lywio ein gwaith mewn cymunedau lleol - a thrwy ddod ynghyd i chwalu rhwystrau a hyrwyddo cynhwysiant - gallwn helpu i greu Gorllewin Cymru sy’n iachach, yn fwy egnïol ac yn fwy cyfartal.
"Nid yw’r adroddiad hwn yn fan terfyn, ond yn llinell gychwyn ar gyfer peri newid parhaol."
I gael rhagor o wybodaeth am Activate Gorllewin Cymru ac i ddarllen yr adroddiad, ewch i: https://activate.wales/cy/state-of-the-region/